Group Exercise Class Descriptions
Troelli
Cymysgedd dull rhydd o seiclo dan do wedi’i gynllunio i herio rhai sy’n cymryd rhan i gyrraedd lefel gyraeddadwy beth bynnag yw eu gallu.
Hyfforddiant Cylchol
Mae’r dosbarth hynod boblogaidd hwn yn ffordd wych o gyfarfod pobl wrth ymarfer gydag amrywiaeth lwyr o orsafoedd cardiofasgwlaidd effaith isel ac uchel.
HIIT
Mae dosbarthiadau HIIT (‘High Intensity Interval Training’) yn golygu gwell ymarfer i’r galon mewn llai o amser.
Her Driphlyg
Mae’r dosbarth hwn yn gymysgedd o ymarferion step, aerobeg a ffyrfio cyhyrau – delfrydol ar gyfer perffeithio’r corff ar gyfer y traeth a chael hwyl wrth wneud!
Coesau, Pen Ôl a Bola
Cyfres o ymarferion i wella’r cyhyrau a llunio’r corff.
Nerth Plyometrig
Yn cael eu hadnabod hefyd fel ‘hyfforddiant naid’ neu ‘plyos’, mae’r rhain yn ymarferion ble mae’r cyhyrau yn trosglwyddo’r grym mwyaf mewn ysbeidiau byr o amser, gyda’r nod o gynyddu a gwella perfformiad.
Kettlebells
Ymarfer gyda phwysau kettlebell sy’n rhoi canlyniadau cyflym trwy dargedu’r prif grwpiau cyhyrau i gyd.
Kettlecise
Yr ymarfer Kettlebell unigol mwyaf effeithiol ar gyfer llosgi braster wedi ei gynllunio i siapio a cherflunio’ch corff. mae’n hwyl, mae’n hynod gyflym hynod effeithiol!
Gwersyll Ffitrwydd
Siapiwch eich corff yn y dull militaraidd! Ymarferion llawn i’r corff sy’n targedu’r prif grwpiau cyhyrau yn rhannau uchaf ac isaf y corff! O ymarferion cylchol sy’n sbarduno ffitrwydd y galon, i ymarferion creadigol ar gyfer ffyrfiant y cyhyrau. Mae’n hwyl fawr!
Aerobeg Dŵr
Dosbarth sydd bob amser yn llawn hwyl. Delfrydol ar gyfer pawb. Sblashiwch eich ffordd i ymarfer gwych.
Ffitrwydd Zumba
Mae’r rhaglen Zumba yn cyfuno rhythmau Lladinaidd hypnotig a symudiadau hawdd eu dilyn i greu un rhaglen ffitrwydd unigryw fydd yn eich cyfareddu.
Cydbwysedd corff
Mae’r dosbarth hwn yn groes rhwng hyblygrwydd, cydbwysedd a sadrwydd creiddiol. Mae’n helpu i leihau straen a chynyddu gwneud ichi deimlo’n well gan ryddhau hormonau da yn y corff.
Fitstep
Mae’r ymarfer dawns yn cymysgu camau gosgeiddig y neuadd ddawnsio gyda chamau cyflym y dawnsfeydd Lladinaidd i greu dosbarthiadau hwyliog lle byddwch yn dod yn ffit heb sylweddoli hynny.
YOGA
Mae Yoga yn gelfyddyd hynafol seiliedig ar gytgordio datblygiad meddwl a chorff, gan adeiladu nerth a hyblygrwydd mewnol.
Pilates
Mae’r dosbarth hwn wedi ei gynllunio i wella nerth, hyblygrwydd ac osgo corfforol, a hyrwyddo ymwybyddiaeth feddyliol.
Aerobeg Bocs
Ffordd hwyliog a chyffrous o ddod yn ffit. Mae’n cyfuno ymarferion cardioleg cyflym gydag ymarferion i’r corff cyfan.
Cyflyru Creiddiol
Cyfres o ymarferion wedi eu cynllunio i wella nerth a sadrwydd eich craidd.
Group Exercise Class Contact Form
Our Centres
For Swim Times, check out our pool times page.
Abertillery | 01495 357779 |
Ebbw Vale | 01495 357777 |
Tredegar | 01495 353339 |
